Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 11 Mai 2017
Amser: 09.05 -
12.50
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/4209
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
John Griffiths AC (Cadeirydd) David Melding AC (yn lle Janet Finch-Saunders AC) Rhianon Passmore AC Jenny Rathbone AC |
Tystion: |
Matthew Kennedy, Institute of Housing Matthew Dicks, Chartered Institute of Housing Cymru Jim McKirdle, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Shaun Couzens, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili Simon Inkson, Cyngor Sir Powys Robin Staines, Cyngor Sir Caerfyrddin Steve Clarke, Welsh Tenants Federation David Lloyd, TPAS Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) Jon Tomkinson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 999KB) Gweld fel HTML (999KB)
1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
1.2. Cafwyd ymddiheuriadau gan Bethan Jenkins AC, Joyce Watson AC, Sian Gwenllian AC, Gareth Bennett AC a Janet Finch-Saunders AC. Roedd David Melding AC yn dirprwyo ar ran Janet Finch-Saunders AC yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Matthew Dicks, Cyfarwyddwr Sefydliad Tai Siartredig Cymru
· Matthew Kennedy, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus (Cymru), Sefydliad Tai Siartredig Cymru
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Jim McKirdle, Swyddog Polisi Tai, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
· Shaun Couzens, Prif Swyddog Tai, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
· Simon Inkson, Pennaeth Tai, Cyngor Sir Powys
· Robin Staines, Pennaeth Tai, Diogelu’r Cyhoedd a Gofal a Chymorth, Cyngor Sir Gâr
3.2. Cytunodd Robin Staines, Cyngor Sir Gâr, i ddarparu manylion pellach am y camau a gymerwyd gan y cyngor i ymgynghori â thenantiaid a darpar denantiaid cyn diddymu'r Hawl i Brynu, gan gynnwys nifer y darpar denantiaid a gymerodd rhan a nifer yr ymatebion a gafwyd, a'r materion a godwyd gan yr ymatebwyr.
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Steve Clarke, Cynghorydd Polisi, Tenantiaid Cymru
· David Lloyd, Dirprwy Gyfarwyddwr, TPAS
5.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ynghylch Papur Gwyn Bil y Diddymu Mawr.
5.2.a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ynghylch Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru).
6.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
7.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitemau 2, 3 a 4 a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ynglŷn â'r materion a godwyd.